Porta

Porta gan Ateb yn blatfform e-ddysgu dwyieithog. Mae’n hawdd ei ddefnyddio, yn hyblyg ac yn gwneud dysgu ar-lein yn ddiddorol.

Cliciwch yma i fynd i dudalen mewngofnodi Porta.

Gyda phwyslais ar ymwybyddiaeth iaith a diwylliant, bydd ein rhaglenni yn sicrhau bod gan y rhai sy’n dilyn ein cyrsiau ddealltwriaeth a gwybodaeth ar faterion allweddol. Mae rhaglenni penodol wedi'u cynllunio i alluogi sefydliadau i gwrdd â gofynion safonau’r Gymraeg, sy’n golygu gallwch fod hyderus bod staff wedi'u harfogi i ddarparu gwasanaethau o safon.

Rydym yn datblygu ein cyrsiau ein hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg – sy’n golygu bod deunydd yn naturiol ac yn hawdd ei ddilyn.

Mae ein cyrsiau i gyd ar gael fel pecynnau unigol i eistedd ar system e-ddysgu mewnol eich sefydliad chi.

Logo Ateb

Porta – ble i dechrau

Mae cychwyn arni gyda Porta yn ddidrafferth. Dewiswch un o’r pecynnau hyn, yn seiliedig ar nifer o sesiynau.

CPD Certification Service

Pecyn blasu
Ffi cychwynnol o £150 am 5 sesiwn

Pecyn mynediad
Hyd at 50 sesiwn yn cychwyn o £495*

Pecyn menter
Hyd at 75 sesiwn yn cychwyn o £745*

Pecyn corfforaethol
Hyd at 100 sesiwn yn cychwyn o £990*

Pecyn hyblyg am 100+ sesiwn
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion

* Ffi mynediad yn ychwanegol

Cwestiynau Cyson

Beth yw ffi mynediad?
Yn ogystal â’n system dysgu dwyieithog, mae’r ffi yn rhoi mynediad i chi at Reolwr Cyfri - sy’n eich galluogi chi i reoli ac adrodd ar gynnydd eich dysgwyr. Rydym yn gofalu am y broses cofrestru i chi - sy’n eich caniatáu chi i wneud eich gwaith dydd i ddydd yn dawel eich meddwl.

Beth yw sesiwn?
Meddyliwch am sesiwn fel sedd rithiol ar gwrs. Gall hyn fod yn nifer o seddi ar yr un cwrs neu un sedd ar nifer o gyrsiau. Er enghraifft gall y Pecyn Mynediad alluogi 50 o bobl i ddilyn yr un cwrs neu 25 o bobl i ddilyn dau gwrs.

Am ba mor hir mae mynediad at sesiynau yn para?
Mae mynediad at eich sesiynau ar gael am 12 mis, o ddyddiad cychwyn y cytundeb. Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a’r raddfa cwblhau sesiynau fel rhan o’r ffi mynediad.

Sut mae cychwyn arni?
Rydym yn anfon ebost croeso gyda chyfarwyddiadau syml ar sut i gael mynediad at gwrs. Mae sesiynau ar gael ar gyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn symudol - sy’n golygu bod Porta ar gael mewn fformat i siwtio pawb.

Oes cefnogaeth ar gael?
Bydd eich Rheolwr Cyfri ar gael i ymdrin ag unrhyw ymholiad neu gwestiwn er mwyn sicrhau bod y profiad o ddefnyddio’r system yn un cadarnhaol ac yn cwrdd â’ch anghenion.

Ydi’n bosib llwytho cyrsiau i system e-ddysgu fewnol fy sefydliad?
Ydi - rydym wedi sicrhau ei bod hi’n bosib llwytho ein cyrsiau fel pecyn SCORM i’ch system e-ddysgu eich hunain.

Ydi’n bosib teilwra cyrsiau o’r llyfrgell?
Gallwn addasu unrhyw gwrs o’n llyfrgell i siwtio anghenion eich sefydliad neu fusnes chi. Gallwn hefyd greu cwrs o’r newydd i chi. Rydym bob amser yn barod i drafod gwahanol opsiynau.

Eisiau gwybod mwy?

Rydym eisiau clywed gennych chi!

Polisi Preifatrwydd a Chwcis | Telerau Defnydd y Wefan

Web site by Bilberry

Copyright © Porta 2024

Admin