Dysgwch unrhyw le, unrhyw bryd.


Opsiynau

Pecyn SCORM

Mynediad i gyrsiau cwbl ddwyieithog Porta i'w uwchlwytho yn uniongyrchol i'ch LMS mewnol. Yn ddelfrydol ar gyfer sefydliadau mwy sydd â phlatfform hyfforddi eu hunain. Mae'r opsiwn hwn yn rhoi rheolaeth lwyr i chi ac yn sicrhau bod yr holl gynnwys wedi'i alinio â deddfwriaeth Cymru ac wedi'i ardystio gan CPD.

✓  Yn cydymffurfio â SCORM

✓  Uwchlwytho i'ch LMS presennol

✓  Gallu i addasu

Platfform Porta

Nid oes gennych eich LMS eich hunan ond rydych chi eisiau ffordd hawdd, a di-lol o ddarparu hyfforddiant dwyieithog cydymffurfiaeth i staff. Cewch fynediad i'n cynnig llawn o gyrsiau e-ddysgu dwyieithog yn uniongyrchol o blatfform Porta, heb unrhyw waith gosod. Addas ar gyfer sefydliadau neu dimau llai sy'n chwilio am ffordd hyblyg a chost-effeithiol o ddarparu hyfforddiant. 

✓  Dim angen LMS

✓  Mynediad at gyrsiau dethol

✓ Pecynnau prisio syml

Eich Platfform

Rydych chi eisiau profiad dysgu wedi'i deilwra a’i frandio ond heb y cymhlethdod na’r gost o gynnal eich LMS eich hun. Byddwn yn creu ardal benodol, wedi'i frandio o fewn Porta ar gyfer eich sefydliad. Wedi ei deilwra'n llawn, ac wedi ei gynnal gennym ni, gallwch sicrhau’r perchnogaeth o’r profiad dysgu heb unrhyw gur pen technegol. 

✓  Wedi'i frandio'n llawn a’r gallu i addasu

✓  Wedi'i gynnal a'i reoli gan Porta

✓  Hyblyg a phroffesiynol

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion



Cwestiynau Cyson

post@porta.wales

M-SParc, Gaerwen, LL60 6AG